SL(6)201 – Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Cefndir a diben

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ac yn datgymhwyso asesiadau statudol presennol yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru.  Mae’r newidiadau hyn yn cael eu gwneud yn barod ar gyfer cyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru, neu o ganlyniad i’w gyflwyno.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud newidiadau i'r gofynion adrodd a chyhoeddi a osodir ar ysgolion, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol.

Trefniadau asesu

Mae rheoliad 3 yn dirymu Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 ar 30 Mai 2022.  Mae’r Gorchymyn hwnnw yn nodi’r trefniadau asesu ar gyfer blwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol (disgyblion blwyddyn 6).  Mae’r dirymiad yn golygu na fydd asesiadau o dan y Gorchymyn hwnnw yn digwydd yn y flwyddyn ysgol hon (2021 i 2022) ac ar ôl hynny.

Mae rheoliad 4 yn datgymhwyso Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 ar gyfer disgyblion mewn ysgolion arbennig o’r flwyddyn ysgol hon (2021 i 2022) ac yn dirymu’r Gorchymyn hwnnw ar gyfer pob ysgol arall o 1 Medi 2024.  Mae’r Gorchymyn hwnnw yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu disgyblion ym mlwyddyn olaf y trydydd cyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru (disgyblion blwyddyn 9).  Mae’r dirymiad yn golygu na fydd asesiadau o dan y Gorchymyn hwnnw yn digwydd ar gyfer disgyblion mewn ysgolion arbennig yn y flwyddyn ysgol hon (2021 i 2022) ac ar ôl hynny ac ar gyfer pob ysgol uwchradd arall o 1 Medi 2024.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013.  Mae’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 2 i 9. Bydd y profion sy’n ofynnol gan Orchymyn 2013 yn parhau i gael eu gweinyddu gan ysgolion wrth i’r Cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno i’r blynyddoedd hynny. Mae’r darpariaethau trosiannol yn diwygio’r Gorchymyn hwnnw fel y bydd yn parhau i weithio gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae rheoliad 6 yn datgymhwyso Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014 i gyd-daro â chyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.  Caiff y Gorchymyn hwnnw ei ddirymu ar 1 Medi 2024, pan fydd pob disgybl a asesir yn unol â’r Gorchymyn hwnnw yn dilyn Cwricwlwm i Gymru (fel na fydd angen y Gorchymyn hwnnw mwyach).

Mae rheoliad 7 yn dirymu Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015 o 30 Mai 2022.  Mae'r Gorchymyn hwnnw yn darparu ar gyfer cymedroli'r holl asesiadau athrawon statudol o ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru ym mlwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd cyfnod allweddol (blynyddoedd 6 a 9 yn y drefn honno).  Bydd hyn yn golygu na fydd cymedroli o dan y Gorchymyn hwnnw yn digwydd yn y flwyddyn ysgol hon (2021 i 2022), ac ar ôl hynny.

Mae rheoliad 8 yn dirymu Rhan 3 a Rhan 4 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 ac yn dirymu’n llawn y Gorchymyn hwnnw ar 1 Medi 2022.  Mae Rhan 3 a Rhan 4 o’r Gorchymyn hwnnw yn darparu ar gyfer asesiadau o ddisgyblion ym mlwyddyn derbyn a blwyddyn olaf y cyfnod sylfaen (blwyddyn 2) yn y drefn honno.  Bydd hyn yn golygu na fydd asesiadau o dan Ran 3 yn digwydd ar ôl y flwyddyn ysgol hon ac na fydd asesiadau o dan Ran 4 yn digwydd yn y flwyddyn ysgol hon (2021 i 2022), nac ar ôl hynny.

Gofynion adrodd

Mae rheoliad 9 yn diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011 fel nad yw'n ofynnol i benaethiaid adrodd ar ganlyniadau'r asesiadau statudol sydd wedi eu dirymu gan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011, sy’n rheoleiddio trosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad addysgol disgyblion o benaethiaid i gyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Yn benodol, mae rheoliad 10:

·         yn dileu'r gofyniad ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i ddarparu canlyniadau'r asesiadau statudol sydd wedi eu dirymu gan y Rheoliadau hyn;

·         yn rhoi Atodlen 2 newydd yn lle’r un bresennol. Effaith hynny yw bod canlyniadau’r profion darllen a rhifedd wedi eu heithrio o’r wybodaeth am asesiadau statudol y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei hanfon i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol honno.

Mae rheoliad 11 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 er mwyn dileu’r gofyniad i awdurdodau lleol ysgolion ddosbarthu copïau o’r prosbectws cyfansawdd yn ddi-dâl i rieni a disgyblion sydd yn y flwyddyn olaf yn yr ysgol ac a allai drosglwyddo i ysgolion eraill o'r fath.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

 

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu gorchmynion penodol, ond nid ydynt yn dirymu gorchmynion sy'n diwygio'r prif orchmynion hynny.

Mae rheoliad 3 yn dirymu Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 (“Gorchymyn 2004”) ar 30 Mai 2022.  Cafodd Gorchymyn 2004 ei ddiwygio:

·         gan Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 (“Gorchymyn Cymwysterau 2005”);

·         gan Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2011 (“Gorchymyn 2011”).

Gan fod Gorchymyn 2004 yn cael ei ddirymu, byddai’n ymddangos yn briodol dirymu’n benodol paragraff 14 o Atodlen 2 i Orchymyn Cymwysterau 2005, sy’n diwygio Gorchymyn 2004.

Er bod rheoliad 4(2)(b) yn dirymu Gorchymyn 2011, nid yw’r dirymiad hwnnw’n digwydd tan 1 Medi 2024.  Gan fod Gorchymyn 2004 yn cael ei ddirymu ar 30 Mai 2022, byddai’n ymddangos yn briodol dirymu’n benodol erthygl 2 o Orchymyn 2011, sy’n diwygio Gorchymyn 2004, ar 30 Mai 2022.

Ar ben hynny, mae rheoliad 4 yn dirymu Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 (“Gorchymyn Cyfnod Allweddol 3 2005”) ar 1 Medi 2024.  Mae Gorchymyn 2011, sy’n diwygio Gorchymyn Cyfnod Allweddol 3 2005 wedi ei ddirymu ar 1 Medi 2024, ond nid yw’r Rheoliadau hyn yn dirymu Gorchymyn y Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru (Diwygiadau Amrywiol) 2008, sydd hefyd yn diwygio Gorchymyn Cyfnod Allweddol 3 2005.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

17 Mai 2022